Pam dewis Coleg Gŵyr Abertawe?
Rydym yn darparu datrysiadau hyfforddi penodol sy’n gwneud y mwyaf o allu eich staff. Rydym am i’n hyfforddiant gael effaith sylweddol ar eich busnes, fel y gallwch elwa o’r arian ac amser rydych chi wedi’i fuddsoddi.
Rydym am greu effaith bositif trwy gynnig portffolio hyfforddiant busnes helaeth a hyblyg. Mae’r portffolio’n cynnwys cyrsiau proffesiynol, addysg uwch, pynciau galwedigaethol, prentisiaethau a datblygiad proffesiynol parhaus. Ein nod yw gweithredu fel cangen o’ch tîm, ac rydym am ddiwallu eich anghenion a dod i adnabod chi a’ch busnes yn dda iawn, fel y gallwn deilwra ein cyrsiau i’ch gofynion penodol.
Sut gallwn ni helpu eich busnes chi?
Rydych chi, a’ch busnes, yn bwysig i Goleg Gŵyr Abertawe ac rydym am greu argraff bositif! Bydd ein datrysiadau hyfforddi yn cael effaith bositif ar eich cynhyrchiant, eich staff, ar ansawdd eich gwasanaeth neu gynnyrch ac, yn y pen draw, effaith gadarnhaol ar eich costau busnes. Rydym eisiau eich helpu i ddatblygu llif o dalent i gefnogi eich sefydliad, fel na fydd angen i chi ddibynnu’n llwyr ar brosesau recriwtio allanol yn y dyfodol. Buddion i’r cyflogwr:
- Uwchsgilio a datblygu eich staff heb unrhyw gostau ychwanegol (*yn amodol ar ddiwallu meini prawf cymhwyso)
- Lleihau costau recriwtio a hyfforddi
- Gwella cynhyrchiant a lleihau costau busnes
- Rhoi hwb i ysbryd staff trwy feithrin talent o fewn y busnes
- Creu gwell Sylfaen sgiliau o fewn y cwmni
Uwchsgiliwch eich tîm heb unrhyw gostau!
Mae gennym lawer o lwybrau ariannu ar gael i gyflogwyr ac unigolion sydd am ddatblygu eu sgiliau a’u datblygiad proffesiynol. Byddwn yn eich helpu i ddod o hyd i raglen sy’n gweddu i’ch anghenion busnes chi ac yna’n chwilio am gymorth ariannol i gefnogi’r buddsoddiad, gan sicrhau eich bod yn gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd ariannu sydd ar gael ac yn dewis yr opsiwn sydd â’r gyfradd llog gorau posib.Dyma rai o’r llwybrau ariannu sydd ar gael:
- Prentisiaethau
- Cyfrifon Dysgu Unigol (PLA)
- ReACT